
Mae Cynhyrchion Coedlannol Cadwaladr, sydd wedi'u lleoli yng Ngwynedd, wedi bod yn masnachu ers 1984.
Yn wreiddiol roedd y busnes yn canolbwyntio ar waith contractio yn y sector coedwigaeth, ffensio a choedyddiaeth, ynghyd â choed tân. Bellach mae melin lifio newydd yn y busnes er mwyn gwneud y defnydd gorau o hyn ac adnoddau eraill y coetiroedd lleol, gan brosesu derw yn bennaf, yn ogystal â ffynidwydd Douglas, pinwydd, llarwydd a chedrwydd.

O ble mae ein coed tân yn dod?
Daw rhywfaint o’r coed, derw yn bennaf, o'n coetir llydanddail ein hunain. Mae'r coetir hwn yn cael ei reoli mewn dull anfasnachol, gyda'r pwyslais ar hybu bioamrywiaeth a bywyd gwyllt, yn enwedig blodau, adar ac ystlumod y coetir.

Melin Lifio
Mae’r rhan fwyaf o'r pren yn lleol ac yn dod o goetiroedd a reolir yn Nyffryn Ogwen a Dyffryn Conwy. Rydym yn awyddus i ddefnyddio pren sy’n tyfu yn y wlad hon, yn enwedig ein coed caled a'n pinwydd brodorol.

Cysylltwch
Cynhyrchion Coedlannol Cadwaladr, Dafydd Cadwaladr, Bryn Meurig, Coed y Parc, Bethesda, Gwynedd, LL57 4YW. Ffon: 01248 605207