Dafydd Cadwaladr
www.cadwaladrwoodlandproducts.co.uk
Cynhyrchion Coedlannol Cadwaladr, Bryn Meurig, Coed y Parc, Bethesda, Gwynedd, Gogledd Cymru, LL57 4YW
Mae Cynhyrchion Coedlannol Cadwaladr, sydd wedi'u lleoli yng Ngwynedd, wedi bod yn masnachu ers 1984.
Yn wreiddiol roedd y busnes yn canolbwyntio ar waith contractio yn y sector coedwigaeth, ffensio a choedyddiaeth, ynghyd â choed tân. Bellach mae melin lifio newydd yn y busnes er mwyn gwneud y defnydd gorau o hyn ac adnoddau eraill y coetiroedd lleol, gan brosesu derw yn bennaf, yn ogystal â ffynidwydd Douglas, pinwydd, llarwydd a chedrwydd.