
Ers blynyddoedd lawer rydym wedi bod yn cynhyrchu coed tân ac rydym wedi arbenigo mewn cynhyrchu pren caled a choed conwydd o ansawdd uchel fel tanwydd. Rydym wedi sicrhau achrediad trwy aelodaeth o Woodsure-Plus fel cwmni sy’n darparu Tanwyddau sy’n Sicrhau Ansawdd.
Coed Tân Sy’n Barod I’w Llosgi
- Coed o ansawdd uchel, sy'n addas ar gyfer tanau agored, stofiau llosgi coed a boeleri nwyeiddio pren.
- Cyflenwr achrededig 'Woodsure Plus' o goed tân o ansawdd uchel. Mae hwn yn Gynllun Tanwydd Coed o Ansawdd sy'n cael ei redeg gan HETAS i sicrhau bod y coed a gynhyrchir o safon uchel.
- Yn gallu darparu coed tân wedi'u sychu drwy'r cynllun 'Woodsure R2B (Ready to burn)’, fel cyflenwr cymeradwy HETAS.
- Wedi'i gynnwys ar y Rhestr Cyflenwyr Biomas (BSL) fel cwmni sy’n gallu cyflenwi coed sy'n cydymffurfio â safonau RHI ar gyfer boeleri nwyeiddio pren.
- Wedi'i gynnwys ar Gynllun Tanwydd sy’n Sicrhau Ansawdd Woodfuels Wales, fel cwmni sy’n cyflenwi coed tân o ansawdd uchel yng Ngwynedd a Gogledd Cymru.
Cynhyrchu Coed Tân
- Ceir coed tân o'r ansawdd gorau drwy ddilyn dull traddodiadol o gynaeafu a phentyrru. Caniateir i bren sychu ac aeddfedu'n naturiol am nifer o flynyddoedd, cyn ei fod yn barod i'w ddefnyddio.
- Mae pren yn cael ei dorri i tua 2.5m / 8' o hyd, cyn ei bentyrru y tu allan yn ein hiard goed nes ei fod yn barod i gael ei ail-dorri a'i hollti i hyd a thrwch sy’n addas i stofiau llosgi coed. Mae’n cymryd 1 i 2 flynedd i bren meddal/conwydd sychu neu 2 i 3 blynedd ar gyfer coed caled.
- Mae pren tanwydd yn adnodd adnewyddadwy, a gesglir o goetiroedd lleol o dan systemau rheoli cynaliadwy.
- Mae Pren tanwydd o’r ansawdd gorau fel arfer yn cael ei werthu yn ôl cyfaint yn hytrach na phwysau, gan fod y pren yn sych ac yn gymharol ysgafn.
- Tuedda llwythi tunnell i fod yn rhai sydd heb orffen sychu ac yn 'wyrdd' neu'n wlyb. Mae'r llwythi trwm hyn yn cynnwys lleithder o hyd ac fel arfer nid ydynt yn addas i'w llosgi mewn stofiau 'caeedig', megis stofiau llosgi coed a boeleri nwyeiddio. Mae angen tocyn pont bwyso ar gyfer y llwythi hyn os ydych chi’n derbyn coed drwy'r dull hwn.
ARCHEBU COED TÂN
- Mae llwythi'n cynnwys boncyffion wedi'u torri i'ch hyd dewisol, ac yna'n cael eu hollti’n ddarnau llai, neu 'biledau', yn barod i'w rhoi ar y tân. Gall hyd y biledau amrywio o 20 – 50 cm (8-20"), ac yn 10-15cm mewn diamedr.
- Fel arfer, mae llwythi'n cynnwys cymysgedd 'hanner a hanner' o bren caled a meddal - gradd Canolradd / 3 seren.
- Y graddau eraill sydd ar gael yw Premiwm / 4 seren (pob math o bren caled) a Cyffredin / 2 seren (pob math o bren conwydd/meddal). Mae gwahanol gyfrannau o bren caled a phren meddal ar gael ar gais, neu os yw'n well gennych gael rhywogaeth benodol, er enghraifft derw, onnen neu binwydd.
- Mae'r llwythi'n cynnwys boncyffion rhydd neu 'swmp', a ddarperir fel arfer gan wagen godi. Llwythi swmp o 1 – 4m³ neu luosrifau ohonynt.
- Gellir cludo coed tân i'ch drws er hwylustod i'r cwsmer. Defnyddir tri cherbyd cludo, o faint cynyddol. Wrth i'r llwythi fynd yn fwy cewch well gwerth am eich arian. Mae llwythi llai, sachau a hanner llwythi ar gael ar gais
- Mae ein hardal gludo fel arfer o fewn 20 – 25 milltir i Fethesda. Mae hyn yn cynnwys Gogledd Orllewin Gwynedd, Ynys Môn, Conwy a Phorthmadog.
- Mae'r holl brisiau a ddyfynnir yn cynnwys cludiant a TAW @ 5% (cyfradd tanwydd domestig).
- Mae gostyngiadau ar gael wrth archebu llwythi lluosog, pren wedi'i sychu'n rhannol, pren gwyrdd neu bren wedi'i dorri'n ffres. Manylion ar gael trwy ymholi.
Delweddau



